Aildrefnu Gweithlu Ysgolion Rhondda Cynon Taf
Defnyddio adnoddau’n effeithiol
Rhondda Cynon Taf

Dewisiadau Amgen ar gyfer Amser CPA

Mae modd i ysgolion ddefnyddio dewisiadau amgen ar gyfer amser Cynllunio, Paratoi ac Asesu (CPA) athrawon er mwyn cyfoethogi’r cwrícwlwm. Dyma ddetholiad o sefydliadau y byddech chi, efallai, eisiau’u defnyddio:

Cwmni Theatr Bigfoot

Cwmni Theatr Bigfoot ydy un o’r cwmnïau mwyaf yn y deyrnas ar gyfer cynnal cynyrchiadau drama mewn ysgolion. Maen nhw’n cynnal amrywiaeth o sesiynau, gan gynnwys cwrs creadigol sy wedi’i gynllunio i baratoi plant y blynyddoedd cynnar, y dosbarth derbyn, blwyddyn 2 a blwyddyn 6 ar gyfer pontio rhwng y cyfnodau allweddol. 

I gael rhagor o fanylion, galwch heibio i’w gwefan ar www.bigfoot-theatre.co.uk, anfon neges ebost - info@bigfoot-theatre.co.uk neu ffonio 0870 950 9312.

Cwmni ‘Evolve Sport‘

Cafodd cwmni ‘Evolve Sport’ ei sefydlu fis Chwefror 2003. Mae’r cwmni’n cynnig hyfforddiant chwaraeon a gweithgareddau addysg gorfforol i ysgolion cynradd yn y Deyrnas Gyfunol. Mae eu gwasanaethau’n cynnwys gweithdai iechyd a chadw’n heini, clybiau chwaraeon ôl-oriau ysgol a chymorth ynglŷn â chwrícwlwm Addysg Gorfforol. 
 
I gael rhagor o fanylion, ffoniwch John Bishop ar 0121 3131725 ffôn ar y lôn 07966 750312.

Ymddiriedolaeth ‘Cambrian Village‘

Cafodd Ymddiriedolaeth ‘Cambrian Village’ ei sefydlu yn 2000. Nod yr ymddiriedolaeth ydy hyrwyddo cyfleoedd chwarae ar gyfer pobl ifainc Cwm Rhondda beth bynnag eu hoedran neu’u gallu. Mae’r ymddiriedolaeth yn canolbwyntio’i gweithgareddau ar bêl-droed. 

I gael rhagor o fanylion, anfonwch neges ebost at Philip Williams jenkinskeith@btconnect.com neu ffoniwch 01443 440510.