Rhondda Cynon Taf - School Remodelling
Using Resources Effectively
Rhondda Cynon Taf

Staff Atodol

Disgrifiadau o Swydd a Manyleb Gofynion Swydd Enghreifftiol

Llwythwch fersiynau 'Word' mae modd eu golygu o'r disgrifiadau o swydd

Cynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch (CALU)

Mae gwaith CALU yn gyflenwol i waith athrawon – dydyn nhw ddim yn gwneud yr un gwaith a does dim modd cyfnewid eu swyddogaethau. Wrth i ragor o CALU gael hyfforddiant a chyrraedd y safon angenrheidiol bydd amrywiaeth mwy helaeth o gymorth ar gael i athrawon. Bydd ein hysgolion yn rhai gwell a bydd y trefniadau newydd yn rhoi’r gallu i athrawon cymwysedig i wneud defnydd mwy effeithiol byth o’u hamser ac arfer eu medrau proffesyddol a’u dealltwriaeth o faterion byd addysg.

Mae CALU yn gweithio mewn amrywiaeth o ganolfannau ac mae mwy o ryddid gyda nhw o ran trefnu eu gwaith na’r rhan fwyaf o staff atodol yr ysgol.  Mae gofyn i athrawon a phenaethiaid sy’n gweithio o fewn y fframwaith reoleiddio i ddod i benderfyniadau proffesyddol ynglŷn â pha weithgareddau addysgu a dysgu y dylai CALU fod ynglŷn â nhw a pha gymorth ac arweiniad ddylen nhw’u cael.  Mae’r safonau yma a’r hyfforddiant a’r trefnau asesu perthynol wedi’u paratoi i dawelu meddwl athrawon, cyflogwyr a rhieni ynglŷn ag ansawdd cyfraniad CALU i addysg y plant.

Cyrsiau Hyfforddi

Swyddi Staff Atodol yn Rhondda Cynon Taf