
“Dyro i mi dy law ac mi awn i ben y mynydd”
Rhagarweiniad
Anelwn at greu awyrgylch gefnogol ac anogol yn Ysgol Castellau lle mae pob unigolyn yn cael y cyfle gorau posibl i ddatblygu ei ddoniau. Dathlwn ein hunaniaeth ac ymfalchïwn yn llwyddiant ein gilydd. Manteisiwn ar bob cyfle i hyrwyddo parch, gofal a chydraddoldeb yn ein bywydau pob dydd a chaiff y plant eu hannog i ddatblygu eu hunan-barch a’u hunan hyder drwy weithgareddau cyfoethog ac amrywiol. Cydweithiwn fel staff – yn athrawon ac yn staff cynorthwyol, yn llywodraethwyr, rieni a ffrindiau gan anelu at yr un nod, sef gwneud Ysgol Castellau yn gymuned hapus, fywiog a chroesawgar lle mae pob plentyn yn profi llwyddiant.
Amcanion
Creu ysgol hapus lle mae gofal a pharch rhwng disgyblion ac athrawon a’i gilydd yn amlwg
Darparu cwricwlwm eang a chytbwys gan geisio sicrhau bod pob plentyn yn cael yr un cyfle ac yn llwyddo hyd eithaf ei allu
Hybu datblygiad annibyniaeth a hunan hyder fydd yn galluogi’r disgyblion i ddysgu dros eu hunain a datblygu eu cywreinrwydd naturiol
Darparu amgylchfyd fydd yn gyfoethog, yn anogol ac yn sialens i’r disgyblion
Helpu’r disgyblion i dyfu’n unigolion hyderus a chyfrifol o gymdeithas wrth roi iddynt y wybodaeth, sgiliau a’r agweddau fydd eu hangen arnynt yn y dyfodol:
Cyfathrebu: Datblygu sgiliau siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu a mynegi syniadau trwy ddefnyddio amrywiaeth o gyfryngau yn y ddwy iaith er mwyn gallu cyfathrebu yn effeithiol a hyderus mewn amrywiol sefyllfaoedd.
Mathemategol: Datblygu’r gallu i gymhwyso eu gwybodaeth a’u sgiliau rhif, siâp, gofod, mesurau a thrin data yn effeithiol yn eu bywydau bob dydd
Technoleg Gwybodaeth: Datblygu’r gallu i gymhwyso sgiliau Technoleg Gwybodaeth i ddod o hyd i wybodaeth, ei baratoi, ei brosesu a’i gyflwyno yn effeithiol.
Datrys Problemau: Datblygu sgiliau o ran gofyn cwestiynnau, rhagfynegi a gwneud penderfyniadau gwybodus.
Creadigol: Datblygu sgiliau creadigol er mwyn hyrwyddo mynegi syniadau ac ymestyn dychymyg. Datblygu’r gallu i werthfawrogi ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau cerddorol a dramatig.
Addysg Bersonol a Chymdeithasol: Hyrwyddo lles personol a chymdeithasol a’r gallu i ddatblygu hunan-werth ac uniaethu’n effeithiol ag eraill. Paratoi’r plant i fod yn fwy gwybodus, hyderus a medrus er mwyn iddynt gymryd rhan weithgar a chyfrifo yn y gymdeithas.
Ysbrydol: Cynnig y wybodaeth i alluogi’r plant i ddatblygu eu syniadau ac i fynegi barn ar faterion crefyddol ac i werthfawrogi crefyddau a diwylliannau’r byd
Cwricwlwm Cymreig: Hyrwyddo ein hiaith a’n diwylliant ym mhob agwdd o fywyd a gwaith yr ysgol. Annog y plant i ymfalchio yn eu Cymreictod ac i deimlo balchder yn eu dwyieithrwydd.