Cefndir

Agorwyd Ysgol Castellau ym 1985 ar gyrion pentre’r Beddau, rhwng Llantrisant a Phontypridd ac ychydig i’r de o Donyrefail a Chwm Rhondda.

Adeiladwyd yr ysgol i wasanaethu cymuned Beddau ac i roi dewis i rieni o addysg Gymraeg ar riniog eu drws.  Mae Ysgol Castellau yn un o’r ychydig ysgolion cymuned lleol cyfrwng-Cymraeg yn Rhondda Cynon Tâf.  Mae’r mwyafrif llethol o’r plant yn byw o fewn cerdded i’r ysgol ac mae hyn yn rhoi hunaniaeth unigryw i’r ysgol ac yn cynnig cyfle iddi feithrin cysylltiadau agos â’r rhieni a’r gymuned leol.

Cyn dod i Gastellau bydd y mwyafrif o’r plant yn mynychu’r Cylch Meithrin lleol, cylch sydd wedi llawn sefydlu ei hun a sydd â chysylltiadau agos rhwng ei staff ag athrawon yr ysgol. 

Mae pentre’r Beddau yn cynnwys amrywiaeth o gefndiroedd sosio-economaidd.  Ar y naill law ceir tai teras a thai cyngor yng nghanol Beddau ac ar y llaw arall mae ystadau tai preifat Gwaun Meisgyn, Yorkdale a Manor Chase.  Mae’r ysgol yn gobeithio cynnig addysg fydd yn ysgogi ac yn ysbridoli’r plant waeth beth fo’u cefndiroedd. 

Mae lle amlwg i ofal a pharch yng ngweithgareddau dyddiol yr ysgol.  Gobeithiwn hyrwyddo amgylchedd o ofal a pharch rhwng athrawon, plant a holl aelodau cymuned yr ysgol a’i gilydd.  Mae gan holl aelodau’r staff, athrawon a’r rhai nad ydynt yn dysgu, staff cynorthwyol, ymwelwyr â’r ysgol, llywodraethwyr a’r plant rôl i’w chwarae er mwyn cefnogi hinsawdd cefnogol a chadarnhaol yr ysgol lle mae pob unigolyn yn cael ei drin yn deg a chyfartal.

Mae gwerthoedd ysbrydol a moesol y plant yn cael eu meithrin trwy gyfrwng gwasanaethau, trafodaethau, ymweliadau gan aelodau o’r gymuned, amrywiol gasgliadau tuag at achosion da, ymweliadau addysgiadol, gweithgareddau all-gyrsiol yn ogystal â disgwyliadau uchel o hunan-ddisgyblaeth ac ymddygiad derbyniol.

Mae ysgol gyfrwng-Gymraeg mewn ardal seisnigedig yn gallu peri rhai anawsterau ac rydym ceisio eu goresgyn.  Mae rhieni’n derbyn gwybodaeth reolaidd am waith a gweithgareddau’r ysgol.  Fe’u hanogir i ymwneud yn uniongyrchol ag addysg eu plant trwy gydweithio â’r athrawon.  Anogir disgyblion i ddatblygu agwedd gadarnhaol tuag at y Gymraeg ac i ddefnyddio’r iaith ar bob achlysur yn ystod diwrnod ysgol.

Mae plant Ysgol Castellau yn rhan annatod o’u cymuned.  Ein nod yw y bydd y disgyblion, yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol wedi dysgu am eu hardal a meithrin parch tuag at eu cymuned.    Anelwn at ffurfio cysylltiadau cryf â’r gymuned gan feithrin parch tuag at y gymdogaeth y mae’r plant yn rhan ohoni.

Arwyddair yr ysgol yw YMLAEN.  Ein nod yw paratoi plant Ysgol Castellau yn gyflawn ar gyfer y dyfodol, i fod yn  unigolion cyfrifol a hyderus sydd â pharch at eu cyd-ddyn a thuag at iaith a diwylliant Cymru.