Ysgol Gynradd Gymunedol
Gymraeg
Llantrisant Dr
William Price

           Ganwyd William Price  ar Fawrth 4ydd, 1800, a thyfodd yn ddisgybl galluog iawn.  Hoffai grwydro’r mynyddoedd gan adrodd barddoniaeth ac ymnoethi i wynebu’r gwynt a’r haul.  Roedd bryd William Price ar fod yn  feddyg.  Yn   1820  aeth  i’r  Royal  Colleg of Surgeons lle cyflawnodd ei radd.

          Rhoddodd ei ddull anghonfensiynol o fyw a’i  ddaliadau hereticaidd ysgytwad i bobol barchus y fro.  Wrth wisgo ceisiai William Price  efelychu  yr  hen  dderwyddon.  Tyfai ei wallt yn hir a gwisgai groen llwynog ar ei ben.  Hwn oedd ei arwyddlun fel iachawr.  Gwisgai wisg wen dros wasgod coch a throwsus gwyrdd.

Fel derwydd fe ymwelai a’r Garreg Siglo ar Gomin Pontyprydd lle cyflawnai ddefodau hynafol.  Roedd en enwog fel iachawr.  Dioddefai  un  claf  o ddiffyg haearn a meddyginiaeth Dr Price oedd taro hoelion naw centimetr i fewn i’w gefn.

           Ar y degfed o Ionawr, 1884, bu farw ei fab ~ Iesu Grist.  Mwydodd y corff mewn olew a chynnau tan ar ben mynydd.  Ar y pryd roedd trigolion Llantrisant yn dychwelyd adre o’r capel, a phan welson nhw’r tan yn llosgi’n ffyrnig fe aethon nhw i’w archwilio,  gan syllu’n syn ar yr olygfa ryfedd.

          Yn y llys yng Nghaerdydd cyhuddwyd Price o losgi corff, ond fe’i amddiffynnodd ei hunan gan siarad yn huawdl.  Fe’i gollyngwyd yn rhydd.  “Rydw i o’r farn,” ebe’r Barnwr, “nad yw dyn sy’n llosgi corff marw ddim yn torri’r gyfraith.”

          Yn  sgil  ei  fuddugoliaeth  fe esgorodd ar y syniad o adeiladu amlosgfa ym mhentref Llantrisant.

 

 

 

          William Price was born  on March 4th 1800, and he grew to be a very clever boy.  He used to enjoy wandering the mountains naked reciting poetry.  William  wanted  to  become a doctor.  In 1820 he went to the Royal College of Surgeons where he completed his degree.

          His unconventional ways shook the people of the area.  When dressed, William liked to copy the ancient Druids..  He grew his hair long and would wear a fox skin on his head.  This was his signature from now on.  He wore a white cloak over a red waistcoat and green trousers.

          As a druid, he  visited  the  Rocking  Stone  on Llantrisant common where he carried out ancient rites.  He was famous as a healer.  One patient was diagnosed as lacking in iron so Dr Price’s treatment was to drive iron nails nine centimetres into the patient’s back.

          On the 10th of January 1884, his son, Jesus Christ, died.  He embalmed the body in oil and lit a fire on top of the mountain.  At the time, the residents of Llantrisant were on their way home from chapel, and when they saw a ferocious fire burning, they  went to  investigate.  They couldn’t believe their eyes.

          In Cardiff Courthouse Price was accused of burning  a  body, but  he  defended  himself.  He was released without charge.  “I am of the opinion,” said the Judge, “that a man who burns a dead body is not breaking the law.”

          Following  his  success in defending himself  in  court he pioneered the idea of building a crematorium in Llantrisant village.