Ysgol Gynradd Gymunedol
Gymraeg
Llantrisant Dosbarth 11
~ Class 11 ~

Dewi Sant, Dewi Sant.  Ffrind y Bobl, Ffrind y Plant

 

              Mae  Dewi  Sant yn ddyn enwog.  Mynach oedd e.  Bob dydd, byddai Dewi yn teithio’r wlad yn pregethu am Iesu a dweud wrth y bobl sut i fyw yn iawn Roedd e hefyd yn gallu wneud gwyrthiau.

Aeth Dewi i Landdewibrefi  i bregethu o flaen torf o bobl un diwrnod. Ond oherwydd bod  cymaint o bobl yno  doedd neb yn gallu clywed na gweld Dewi. Felly rhoddodd Dewi hances ar y ddaear a chododd y tir felly roedd pawb yn gallu ei weld a’i glywed nawr!

       Roedd  Dewi  a’i  gyfeillion  yn  flinedig  iawn  oherwydd  eu bod wedi teithio llawer.  Felly penderfynon nhw ble bynnag y byddan nhw erbyn machlud haul byddan nhw’n adeiladu mynachlog yno.

              Y diwrnod canlynol cyrraeddon nhw lle o’r enw Glyn Rhosyn ac adeiladon nhw y mynachlog a chynnau  coelcerth.  Roedd Dewi wedi penderfynu ble bynnag y byddai’r mwg yn ymestyn, fe fyddai yn hawlio’r tir yna. Roedd y mwg wedi ymestyn mor bell, gallai pobl Iwerddon ei weld e!

Yn yr ardal, roedd y Tywysog Boai yn byw. Doedd tywysog Boia ddim yn hapus o gwbwl gwbl pan glywodd e fod Dewi yn hawlio ei dir e!

Dechreuodd y milwyr are u taith draw i weld Dewi a’i gyfeillion ond yn sydyn dechreuodd y milwyr deimlo’n wan a stopion nhw.  Roedd rhaid iddynt droi am adref! Aethon nhw adref a phenderfynu nad oedden nhw’n gallu ymladd yn erbyn Dewi, roedd e’n ddyn arbennig yn amlwg!

Pan gyrhaeddon nhw gartref doedd Boia ddim yn gallu credu ei lygaid.  Roedd yr anifeiliaid  i gyd wedi marw gyda’u llygaid ar agor yn gorwedd yn y cae!  Teimlodd Boia yn ofnus bod hyn wedi digwydd.  Doedd e ddim yn gallu credu’r peth.  “Sant yw’r dyn Dewi yma!” meddai wrth ei ddynion.  Penderfynodd Boia roi anrheg i Dewi rhag ofn iddo wneud rhywbeth gaweth iddo.

         Y diwrnod canlynol penderfynodd Boia roi darn o’i dir e i Dewi.  Felly aeth Boia at Dewi a dweud  “Dyma  ddarn  o  dir  i  ti.”   Teimlodd  Dewi  yn  ddiolchgar  iawn ,oherwydd bod  Dewi a’i ddisgyblion wedi bod yn teithio am ddiwrnodau a dyma nhw yn gallu aros yn yr un lle I fyw nawr!

Pan aeth Boia adref doedd e ddim yn gallu credu ei lygaid eto.  Roedd yr anifeiliaid i gyd yn fyw eto.  Roedd Boia mor hapus galwodd ei wraig Satrapa i weld.

Adeiladodd Dewi a’i disgyblion fynachlog ar y tir ac yn byw yn hapus yno.  Aethon nhw ati i bregethu am Dduw a rhannu gair Duw gyda phobl yr ardal.

Heddiw ar Fawrth y cyntaf mae pawb yn cofio y diwrnod roedd Dewi wedi marw.  Dydd Gwyl Dewi yw e!

Gan Joanna Edwards