|
DIOGELWCH O FEWN YR
YSGOL
Mae clo wedi ei osod ar bob drws allanol yn yr ysgol ac ni cheir mynediad heb
ganiad cloch. Mae hyn yn gam tuag at sicrhau na
fydd unrhyw ddiethryn yn cael mynediad i'r ysgol heb fod aelod o'r staff yn
ymwybodol o hyn.
YMWELIADAU
Os ydych angen trafod
rhywbeth gyda'r Prifathro, yna byddai'n ddoeth i ffonio'r ysgol
yn gyntaf er mwyn trefnu apwyntiad. Os ydych am drafod unrhywbeth gydag un o'r
athrawon, yna rhaid cysylltu gyda'r Prifathro neu'r Dirprwy yn gyntaf.
YMDRIN Â CHWYNION
Fel y dywedwyd eisioes, mae Llwyncelyn yn ysgol 'drws agored'. Os oes unrhywbeth
yn eich poeni, boed yn addysgol neu'n gymdeithasol ac sydd yn cael ffaith ddrwg
ar eich plentyn, yna mae'n bwysig i ni wybod amdano. Gellwch ffonio'r
ysgol i siarad â'r Prifathro a gellwch fod yn siwr yn byddwn yn delio â'r
broblem yn syth.
TREFNIANT CODI TÂL
Yn ystod pob blwyddyn, bydd gwibdeithiau addysgol yn cael eu trefnu gan bob
dosbarth i atgyfnerthu neu i sbarduno'r gwaith a gyflwynir o fewn y dosbarth.
Byddwn yn rhoi gwybodaeth i chi am y wibdaith gan nodi’r pris fydd yn cynnwys
tâl mynediad a chost y bws. Os oes problem arianol gennych yna cysylltwch â'r
Prifathro.
ENWADAU CREFYDDOL
Ar hyn o bryd, mae plant Llwyncelyn bron i gyd yn ymuno yn ein gwasanaethau
boreol. Os yw eich plentyn yn dilyn crefydd ar wahan i Gristnogaeth, yna bydd yn
cael ei neilltuo o'r gwasanaeth boreol a gwneir trefniadau o fewn yr ysgol neu
efallai bydd galw arnoch i'w oruchwylio yn ystod y cyfnod hwn bob dydd.
DOGFENNAU ADDYSGOL
Gellir gwneud trefniadau ar gyfer i rieni weld dogfennau addysgol os oes gofyn.
Cysylltwch â'r Prifathro.
CYDWEITHREDIAD
Wrth anfon eich plentyn i Lwyncelyn, rydych chi yn dod yn rhan o deulu'r ysgol.
Rydym yn deulu hapus yn Llwyncelyn ac er mwyn diogelu'r teimlad hwn o fewnyr
ysgol, disgwylir eich cydweithrediad chi. Mae presenoldeb eich plentyn a'i
brydlondeb yn eithriadol o bwysig a disgwylir i
chi gadw'n dynn at hyn. Mae'n bwysig fod yr ysgol a'r cartref yn gweithio'n agos
gyda'i gilydd er mwyn llês eich plentyn chi. O bryd i'w gilydd efallai y bydd
rhaid ceryddu eich plentyn am weithred nad yw'n dderbyniol ond gellwch fod yn
sicr y byddwn yn deg â'ch plentyn bob tro. Os oes unrhyw beth yn poeni eich
plentyn yn ystod ei gyfnod yn yr ysgol yna cysylltwch â'r Prifathro heb oedi
fel y gallwn geisio datrys y broblem. Os oes problemau o fewn y cartref a all
effeithio ar eich plentyn, yna mae'n bwysig eich bod yn gadael i'r Prifathro
wybod rhag ofn fod newid yn agwedd eich plentyn o fewn yr ysgol. Gellwch fod yn
sicr y byddwn yn gwbl gyfrinachol wrth ddelio â'r sefyllfa.
DIWEDDGLO
Mae Llywodraethwyr, rhieni, athrawon a phlant Ysgol Gynradd Gymraeg
Llwyncelyn yn un teulu mawr. Mae
croeso mawr yn aros eich plentyn pan ddaw yn rhan o'r teulu hwn a gobeithio y
gallwn wneud ei addysg gynradd yn un pleserus a bythgofiadwy.
|