CYMDEITHAS RHIENI AC ATHRAWON 

bullet2.gif (2709 bytes)Yn ôl i'r Dechrau
bullet2.gif (2709 bytes)Gwybodaeth bullet2.gif (2709 bytes)Pynciau bullet2.gif (2709 bytes)Noson Agored bullet2.gif (2709 bytes)Absenoldebau
bullet2.gif (2709 bytes)Gofalaeth Staff bullet2.gif (2709 bytes)All_Gyrsiol bullet2.gif (2709 bytes)Pwyllgor Rhieni bullet2.gif (2709 bytes)Cinio Ysgol
bullet2.gif (2709 bytes)Trefn bullet2.gif (2709 bytes)Gwaith Cartref bullet2.gif (2709 bytes)Gwisg Ysgol bullet2.gif (2709 bytes)Eraill
Y GYMDEITHAS RHIENI/ATHRAWON

Pan fo eich plentyn yn dechrau yn Ysgol Llwyncelyn, rydych yn dod yn aelod o Gymdeithas Rhieni/Athrawon yr ysgol. Ar ddechrau pob blwyddyn ysgol, cynhelir Cyfarfod Blynyddol Cymdeithas Rhieni/Athrawon yr ysgol ac yn ystod y cyfarfod hwn byddwn yn croesawu rhieni newydd, yn cael adroddiad am y flwyddyn ysgol olaf gan gynnwys adroddiad ariannol ac yn ethol Pwyllgor i weithredu ar ran gweddill y rhieni. Yn ystod y flwyddyn, bydd y Pwyllgor hwn yn trefnu nosweithiau addysgol, cymdeithasol a thuag at godi arian i gefnogi addysg eich plant. Bydd rhyw weithgaredd yn cael ei drefnu ar gyfer pob mis ac ynghyd â raffl, dyma fydd ein prif weithgareddau ar gyfer codi arian. Bydd y nosweithiau misol eraill yn gyfle i chi i gymdeithasu a dod i wneud ffrindiau newydd o fewn yr ysgol. Trwy fynychu'r nosweithiau hyn, rydym yn gobeithio y byddwch yn teimlo'n rhan o Ysgol Llwyncelyn. Gobeithiwn y bydd pob rhiant yn gefnogol i'r Gymdeithas er mwyn hybu addysg eu plentyn a dyfodol yr ysgol.