|
LLAWLYFR - ABSENOLDEBAU |
|
| ABSENOLDEBAU Yn dilyn trefniant y sir, os yw eich plentyn yn absennol o'r ysgol, yna mae'n ofynnol i hysbysu'r ysgol o'r rheswm am yr absenoldeb trwy alwad ffôn neu trwy lythyr. Os na dderbyniwn wybodaeth am absenoldeb yn yr ysgol, yna cofrestrir yr absenoldeb fel un answyddogol. Os bydd nifer o absenoldebau answyddogol gan eich plentyn, yna mae'n orfodol i'r Prifathro i roi gwybod i Adran Llês Addysg yn y Ganolfan Addysg a bydd aelod o'r adran yn galw i'ch gweld. |
|
Cofnod o Ganran Absenoldebau Ebrill 2000 – Mawrth 2001 |
|
Tymor |
% Absenoldeb gyda Chaniatad |
% Absenoldeb heb ganiatad |
% Presenoldeb |
|
Haf 2000 |
5.20 |
0.44 |
94.36 |
|
Hydref 2000 |
4.92 |
0.57 |
94.51 |
|
Gwanwyn 2001 |
6.74 |
0.92 |
92.34 |
| GWYLIAU Mae llawer o deuluoedd erbyn hyn yn dewis cymryd eu gwyliau yn ystod y tymor ysgol. Mae'n orfodol i gael caniatâd y Prifathro cyn cymryd eich gwyliau gan fod colli ysgol yn effeithio ar addysg eich plentyn. Ceisiwch wneud pob ymdrech i drefnu eich gwyliau i gyd-redeg â gwyliau ysgol. |
| PRYDLONDEB Disgwylir i'r plant i gyrraedd yr ysgol rhwng 8.35 am a 8.45 am. Nid yw'r ysgol â chyfrifoldeb am y plant cyn yr amser yma. Os yw eich plentyn yn hwyr yn cyrraedd yr ysgol, yna rhoddir absenoldeb answyddogol iddo/iddi am y sesiwn hwnnw. Os yw eich plentyn yn hwyr yn gyson, yna mae'n orfodol i'r Prifathro i roi gwybod i Adran Llês Addysg yn y Ganolfan Addysg a bydd aelod o'r adran yn galw i'ch gweld. |