LLAWLYFR   -  ALL  GYRSIOL   

bullet2.gif (2709 bytes)Yn ôl i'r Dechrau
bullet2.gif (2709 bytes)Gwybodaeth bullet2.gif (2709 bytes)Pynciau bullet2.gif (2709 bytes)Noson Agored bullet2.gif (2709 bytes)Absenoldebau
bullet2.gif (2709 bytes)Gofalaeth Staff bullet2.gif (2709 bytes)All_Gyrsiol bullet2.gif (2709 bytes)Pwyllgor Rhieni bullet2.gif (2709 bytes)Cinio Ysgol
bullet2.gif (2709 bytes)Trefn bullet2.gif (2709 bytes)Gwaith Cartref bullet2.gif (2709 bytes)Gwisg Ysgol bullet2.gif (2709 bytes)Eraill
GWEITHGAREDDAU ALL-GYRSIOL
Mae'r athrawon bob amser yn barod i roi llawer o'u hamser eu hunain i roi cyfle i'r plant i gymryd rhan mewn gweithgareau all-gyrsiol. Mae'r gweithgareddau hyn yn bennaf ar gyfer y plant yn yr Adran Iau. Mae'r Urdd yn chwarae rhan bwysig ym mywyd eich plentyn a chânt brofiad o gymryd rhan mewn Eisteddfodau, mewn gêmau peldroed a rygbi, a threulio penwythnos yn y gwersyll yn Llangrannog. Efallai y gofynnir i'ch plentyn aros ar ôl oriau ysgol neu i ddod i mewn ar benwythnos i ymarfer ar gyfer Eisteddfod neu gyngerdd a bydd gofyn i chi i drefnu cludiant ar ei gyfer.
GWERSI OFFERYNNOL
Mae cyfle i blant hynaf yr ysgol i gael gwersi offerynnol ddwy waith yr wythnos. Mae athrawes yn galw i roi gwersi telyn ac rydym wdi sefydlu adran offerynnau pres eleni.
GWERSI NOFIO
Bydd plant Blwyddyn 5 a 6 sydd ddim yn gallu nofio 25 metr yn cael y cyfle i fynd i nofio i Bwll Nofio Bronwydd unwaith yr wythnos.

CHWARAEON
Mae tîm peldroed a rygbi yn yr ysgol a gobeithir sefydlu tîm pêlfasged yn y dyfodol agos. Maent yn cael cyfle i chwarae yn erbyn yr ysgolion lleol ac yng nghystadlaethau yr Urdd. Byddwn yn cynnal diwrnod mabolgampau yn nhmor yr haf a byddwn hefyd yn cystadlu yn erbyn yr Ysgolion Cymraeg eraill. Mae Athrawes deithiol yn galw yn yr ysgol yn wythnosol yn nhymor y Gaeaf a thymor y Gwanwyn i roi gwersi pêlfasged i blant Blwyddyn 5 a 6.

ADRAN
Mae Adran wedi ei sefydlu yn yr ysgol ar gyfer plant Blwyddyn 5 a 6. Bydd yr Adran yn cyfarfod unwaith yr wythnos o 3.15 tan 5 o'r gloch. Bydd gofyn i chi gasglu eich plentyn am 5 o'r gloch. Cyfle yw hyn i'ch plentyn i fwynhau ei hunan drwy'r iaith Gymraeg a bydd rhyddid i'r plant i ddewis amryw o weithgareddau gyda'r pwyslais ar awyrgylch answyddogol. Gallent chwarae peldroed, rhwydbel, dartiau, snwcer, pwl, gêmau cyfrifiadurol, arlunio a bydd siop ar gael iddynt brynu losin a diod.