|
|
Chwaraewyr Pêl Droed |
|
|
Alan Curtis |
||
|
|
Cafodd Alan Curtis ei eni yn y Rhondda ym mis Ebrill 1954. Dechreuodd Alan chwarae pel droed gyda Abertawe yn 1972-73. Roedd Abertawe yn hoff iawn ohono fe felly aeth ymlaen i fod yn arwr i glwb Dinas Abertawe. Yn tua 1979 prynodd Leeds United Alan Curtis am £370,000 am ei sgilliau gyda`r bel. Doedd ef ddim ar ei gem gorau tu fas i Gymru. Blwyddyn wedyn gwerthodd Leeds United e nol i Abertawe am £170,000. Aeth e nol i`r Vetch Field a roedd e ar ei orau eto .I gorffen ei ddiwrnodau pel- droed aeth e Caerdydd i gorffen ei ddiwrnodau pel -droed a roedd yn iawn fan yna hefyd. |
|
|
Mel Hopkins |
||
|
Chwaraeodd Mel Hopkins pel droed i Tottenham Hotspur yn y 1950au. Enillodd Tottenham Cyngrair Lloegr a cwpan yr FA gyda Mel Hopkins. Enillodd nifer o gapiau rhyngwladol i Gymru. Aeth ef i Gwpan y Byd ym 1958 a chwaraeodd yn rownd yr wyth olaf pan gollodd Cymru o 1 - 0 i Brasil. |
|
|
|
Roy Paul |
||
|
|
Cafodd Roy Paul ei eni yn Ton Pentre, Rhondda ar Ebrill 18fed, 1920. Dechreuodd Chwarae pel-droed yn1940 gyda Abertawe pan roedd yn fachgen ifanc. Gorffenodd gyda Abertawe 1950 pan symudodd ef i Maine Road. Dechreuodd chwarae i Manchester City yn 1950 a gorffenodd yn 1957 enillodd Cwpan yr FA gyda Manchester City ym 1956. Chwaraeodd 270 o gemau yn Manceinion a sgoriodd ef naw gol. Yn ystod ei amser yna chwaraeodd dros Gymru 37 o weithiau a sgoriodd un gol. Mae'r tri chwaraewr yma'n enwog dros Gymru ac yn dangos llwyddiant y gem yn y Rhondda. |
|