|
LLAWLYFR - GWAITH CARTREF |
|
|
|
||
All_Gyrsiol |
|
||
Gwaith
Cartref |
|
Eraill |
| GWAITH CARTREF |
|
Yn ystod eu gyrfa haddysgol, disgwylir i blant ddod i arfer â’r broses o wneud gwaith cartref. Yr holl bwrpas o osod gwaith cartref yw i gyfrannu tuag at addysg gyflawn y plentyn. Ni ddylid, ar unrhyw gyfrif, osod gwaith cartref heb fod iddo gyfraniad i’w wneud tuag at gynnydd addysgol y plentyn. Dylai gwaith cartref fod yn estyniad o waith y wers yn yr ysgol ac yn gyfraniad at y gwaith hwnnw. Mae’r plentyn hefyd yn cyfarwyddo â’r broses o wneud gwaith cartref erbyn yr amser iddo drosglwyddo i’r sector uwchradd. Yn dilyn dyfodiad y Cwricwlwm Cenedlaethol a'r holl faes llafur a rhaglenni gwaith y disgwylir i athrawon allu eu cwblhau yn ystod oriau ysgol, mae'n anorfod fod rhan o'r gwaith yma'n mynd i gael ei osod tu allan i wersi dosbarth. Yn ogystal â hyn, mae'r cydweithrediad rhwng cartref ag ysgol yn eithriadol o bwysig er mwyn sicrhau fod y plentyn yn cael y cyfle gorau i ddatblygu. Mae cyfrifoldeb trwm ar ysgwyddau rhieni y dyddiau hyn i gyfrannu at addysg eu plentyn ac mae'n bwysig eu bod yn cefnogi'r ysgol yn hyn.
|
| ADDYSG RHYW |
| Mae'r Corff Llywodraethol wedi penderfynu fod Addysg Rhyw yn rhan o gwrs addysg yr ysgol ac i'w gynnwys fel rhan o Raglen Addysg Iechyd gan ystyried gofynion y plentyn fel y datblyga'n feddyliol a chorfforol. |