|
|
Hanes yr Ysgol |
|
Agorodd Ysgol Gymraeg Pontygwaith (a daeth yn Llwyncelyn) mewn cwt pren ar y llethrau ar y 6ed Medi 1950 gyda 13 o ddisgyblion. Erbyn 1960 roedd y rhifau wedi codi 50 ac erbyn 1970 roedd 120 o ddisgyblion. Yn 1978 roedd yr adeilad yn orlawn ond daeth adeilad arall yn wag ym mhentre Trestanley ar draws y Cwm. Symudwyd y ddau ddosbarth hynaf o Bontygwaith i Drestanley am flwyddyn ac yna daeth adeilad yn Llwyncelyn yn wag. Cafwyd dwy Brifathrawes - Miss Bessie Thomas a Mrs Doris Davies ac un Brifathro Mr Bill Evans wrth y llyw ym Mhontygwaith.
Daeth Ysgol Gymraeg Pontygwaith yn Ysgol Gymraeg Llwyncelyn ym Medi 1979 dan brifathrawiaeth Mr Bill Evans. tan Medi 1989 ac erbyn heddiw mae 298 o ddisgyblion yn yr ysgol.
|