|
Y LLAWLYFR - TREFN YR YSGOL |
|
| YR YSGOL |
|
Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn dan ofalaeth Awdurdod Addysg Rhondda Cynon Taf. Mae’n ysgol ar gyfer plant o 3 oed hyd at 11 oed. Cyfrwng y dysgu yw Cymraeg a bydd Saesneg yn cael ei gyflwyno fel pwnc yn yr Adran Iau. Mae’n ysgol hapus a chyfeillgar a chaiff pob plentyn y cyfle i gyrraedd ei lawn botensial yn ystod ei amser yn yr ysgol. |
| TREFNIANT MYNEDIAD I’R YSGOL |
| Derbynir plant i’r ysgol yn y Medi sy’n dilyn eu penblwydd yn dair oed, os oes lle iddynt. Yn ôl rheolau y Llywodraeth, mae’n rhaid cyfyngu’r nifer mewn dosbarthiadau dan 7 oed i 30 y dosbarth. |
| AMSEROEDD YR YSGOL |
| Mae’r ysgol yn dechrau am 8.45 y.b.
ac yn gorffen am 3.15 y.h.
|
| Y CWRS ADDYSG Mae Cwrs Addysg yr ysgol wedi ei sefydlu ar ofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol. Bydd eich plentyn yn cael y cyfle i astudio deuddeg pwnc yn ystod ei amser yn yr ysgol - pedwar pwnc craidd (tri yn Adran y Plant Bach) a saith pwnc sylfaen. |