|
NOSWEITHIAU AGORED
Cynhelir Nosweithiau Agored yn yr ysgol ddwy waith bob blwyddyn ysgol - un yn
nhymor yr Hydref i weld sut mae eich plentyn wedi sefydlu yn ei ddosbarth newydd
ac un yn nhymor yr Haf. Mae’r nosweithiau hyn yn gyfle i chi i ddod i drafod
cynnydd eich plentyn gyda’i athro / athrawes. Yn ôl gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol, fe roddir adroddiad addysgol ysgrifenedig ar gynnydd eich plentyn
ar ddiwedd pob blwyddyn ysgol.
Mae Ysgol Llwyncelyn yn 'Ysgol Drws Agored' ac os fyddwch angen trafod cynnydd
eich plentyn ar amser ar wahan i'r nosweithiau agored, yna bydd yn bosibl
i wneud trefniant ar gyfer hyn drwy'r Prifathro.
|